Beth fydd yn digwydd i fy stori?

Bydd y tîm ymchwil yn darllen ac yn gwrando ar bob stori. Byddant yn dadansoddi ac yn chwilio am dueddiadau a phatrymau sy'n codi o'r straeon. Byddwn yn ysgrifennu adroddiad gydag argymhellion. Yn yr adroddiad, byddwn yn defnyddio llawer o enghreifftiau gan bobl, ond byddwn yn gwneud hyn yn gyfrinachol, felly ni fyddwch yn cael eich enwi.

Pwy fydd yn gweld fy stori i?

Dim ond y tîm ymchwil fydd yn gweld eich stori. Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw'n ddiogel a dim ond aelodau awdurdodedig o'r tîm fydd yn cael mynediad ati.

Am ba hyd fydd fy ngwybodaeth i'n cael ei chadw?

Data personol yw'r wybodaeth yma ac felly mae'n rhaid i chi wybod mai dim ond am gyfnod cyfyngedig ac at ddiben cyfyngedig y gallwn ei chadw. Y bwriad yw y byddwn yn cadw eich data personol yn ddiogel am 6 mis o'r adeg y daw'r prosiect ymchwil i ben. Byddwn wedyn yn dinistrio eich data personol.

Faint o amser fydd yr ymchwil yn ei gymryd?

Disgwylir i ni gwblhau'r ymchwil, gan gynnwys adrodd yn ôl, erbyn mis Mawrth 2021.

A fyddaf yn gallu cael copi o'r adroddiad?

Byddwch. Bydd y 5 Cyngor Chwaraeon yn rhoi copi o'r adroddiad i chi.

Ydw i'n gallu defnyddio eich deunydd marchnata?

Os ydych yn dymuno rhannu neu ailbostio unrhyw gynnwys rydym wedi'i greu i hyrwyddo'r prosiect hwn, gallwch wneud hynny, ond ni ellir gwneud unrhyw addasiadau. Gwaherddir unrhyw ddefnydd arall o'n deunydd.