#RhannwchEichStori

Take Part 

Y llynedd, gwelodd y byd effaith hil a hiliaeth mewn cymdeithas ac mewn chwaraeon. Rydyn ni’n gwybod bod rhaid i bethau newid a bod angen i ni achub ar y cyfle yma i wrando, dysgu a gweithio gyda phob cymuned i siapio'r dyfodol.

Mae ymgyrch #RHANNWCHEICHSTORI wedi cael ei chreu ar gyfer y diben o ddod at ein gilydd i greu newid mawr!

Cymerwch ran drwy fynd i mewn i un o'r fforymau ar-leinCofrestrwch yma),lle gallwch chi siarad yn agored am eich profiadau, gan gynnwys problemau hanesyddol a phresennol, a gwneud hynny heb ymddiheuro. Hefyd, gallwch uwchlwytho neu ysgrifennu eich cofnod, anfon nodyn llais neu fideo manwl o'ch profiadau drwy'r dudalenEich Stori Chi.

Rydyn ni’n annog unrhyw un sy'n Ddu, Asiaidd neu o Leiafrif Ethnig arall i gysylltu â thîm #RHANNWCHEICHSTORI a chymryd rhan.

Rydyn ni’n gweithio gydag UK Sport, Sport England, Sport Wales, sportscotland a Sport Northern IrelandMaen nhw’n deall bod rhaid i bethau newid ac maen nhw eisiau dysgu gennych chi.

Bydd eich cyfraniadau'n siapio'r dyfodol. Mae'r ymchwil hwn yn bellgyrhaeddol. Rydyn ni eisiau clywed gennych chi os ydych chi'n athletwr (proffesiynol, amatur, hamdden), hyfforddwr, rhiant, gwirfoddolwr, cefnogwr neu aelod o staff. Bydd y tîm ymchwil yn dadansoddi'r holl wybodaeth, ond gallwch fod yn dawel eich meddwl na fydd yr adroddiad terfynol yn troi eich stori i fod yn ddim ond ystadegyn. Bydd y prosiect yn sicrhau bod eich profiadau byw yn cael eu clywed ac yn llywio dyfodol chwaraeon.

#RhannwchEichStori

Y peiriant tu ôl i #RhannwchEichStori

Mae AKD yn ymgynghoriaeth dysgu a datblygu sy'n eiddo i bobl dduon a ddewiswyd i weithio gyda'r pum Cyngor Chwaraeon ar ôl proses dendro gyhoeddus gystadleuol. Rydyn ni wedi gwneud cais i wneud y prosiect yma oherwydd i'n tîm cyfan mae'n bersonol.

I AKD, mae hyn yn fwy na phrosiect ymchwil. Mae'n gyfle i bobl adrodd eu straeon heb ymddiheuriad, a chael eu clywed heb ffilter. Byddwn yn casglu eich profiadau ac yn gwneud yn siŵr bod y pum cyngor yn gwrando arnoch chi, ac yn defnyddio'ch straeon i greu newid gwirioneddol.

This is why we need you to get involved with #TellYourStory.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am AKD click here.

Fforymau i Ddod

Below are the next forums.  But we have a number of forums for the different countries and specialised groups.  For more details cliciwch yma.